Life Skills Resilience

Bwriad Prosiect Bywyd-Sgiliau-Gwytnwch, sy’n cael ei ariannu gan Blant mewn Angen, yw creu
cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a gwella eu sgiliau a galluoedd a’u cysylltu â’r gymuned trwy
wirfoddoli.

Mae gennym weithgareddau fel fforwm ieuenctid, codi sbwriel a phrosiectau rhwng-cenedlaethau.
Rydym hefyd yn cydweithio â phrosiectau arlwyo, garddio ac iechyd a llesiant Dr M'z er mwyn gallu
cynnig ystod ehangach o sgiliau a gweithgareddau. Mae’r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ac yn eu
cefnogi wrth iddynt dyfu’n oedolion.

Gall pobl ifanc ddysgu sgiliau mewn:

  • Tyfu a choginio bwyd
  • Gwaith coed
  • Harddwch
  • Cyfathrebu
  • Digidol
  • Gwaith adeiladu tîm, a mwy.

Credydau Amser – Partneriaeth gyda TEMPO

1 Credyd Amser = 1 awr o wirfoddoli = 1 awr o weithgaredd

Tra’n cymryd rhan yn y prosiectau hyn, mae Credydau Amser ar gael i’w casglu fel ffordd o wobrwyo’r bobl ifanc am wirfoddoli yn Dr M’z ac yn y gymuned. Am bob awr o wirfoddoli, mae pobl ifanc yn cael credyd amser, ac wrth eu casglu at ei gilydd gellir eu defnyddio ar gyfer teithiau a gweithgareddau gyda Dr M’z neu ar draws Sir Gaerfyrddin, Cymru a gwledydd Prydain ar gyfer gweithgareddau fel bowlio, y ganolfan hamdden a’r theatr. Mae hon yn garreg sarn sy’n rhoi cyfle i
bobl ifanc archwilio beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig iddynt.

Oriel y Prosiect:

Diolch i’n harianwyr:

Prosiectau eraill yn Dr Mz: