Stori Tylwyth Teg Dr Mz
Ymhell bell yn ôl, yn 1994/5, nid oedd dim byd i bobl ifanc i’w wneud yng Nghaerfyrddin oni bai eich bod eisiau actio neu ganu, cerdded milltiroedd i’r ganolfan hamdden neu wylio ffilm unwaith yr wythnos! Penderfynodd llawer o bobl ifanc yfed alcohol, crynhoi ar gorneli stryd a chreu bach o niwsans!
Ysgrifennodd Cyngor Ieuenctid y Dref lythyr at y Carmarthen Journal am hyn a dechreuodd pobl siarad am beth allai’r gymuned ei wneud ar gyfer ei phobl ifanc (nhw wedi’r cyfan oedd dyfodol Caerfyrddin!). Daeth grŵp o’r bobl hyn yn cynnwys Cynghorydd Tref/Sir arbennig o’r enw Margaret, ambell riant, ficer, Cymdeithas y Plant a nifer o bobl ifanc at ei gilydd i ddatblygu syniadau. Canlyniad hynny oedd bod y bobl ifanc y buon nhw’n siarad â nhw eisiau rhywle i fynd oedd yn ddiogel, twym, cyfforddus lle y gallent gwrdd â’u ffrindiau, cael coffi, cymryd rhan mewn gweithgareddau a chael llais yn y ffordd roedd yn cael ei redeg....