Mae Dr M'z yn Gwmni Elusennol Cyfyngedig trwy Warant, ac o’r herwydd mae’n dibynnu’n bennaf ar arian grant a rhoddion. Cawn ein cefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin a gweithiwn yn agos â nhw. Caiff Dr M’z ei gyllido gan:
- Cronfa Gymunedol Y Loteri Genedlaethol
- BBC Children in Need
- Cronfa Ben-blwydd Garfield Weston
- Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol (Llywodraeth Cymru)
- The Moondance Foundation
- Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyngor Tref Caerfyrddin
- The Ashley Family Foundation
- Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
Rydym wastad yn chwilio am fwy o arian i gefnogi’r gwaith a wnawn ac i ddatblygu’r Prosiect yn unol ag anghenion y bobl ifanc a gofynion Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru.