Stori tylwyth teg dr m’z
Yn 1997, daeth y freuddwyd honno’n realiti. Dr M'z yw’r enw a ddewiswyd gan y bobl ifanc, ac mae er cof am y Cynghorydd Tref a Sir a’r meddyg teulu lleol, y diweddar Dr. Margaret Evans, gan i’w gweledigaeth, brwdfrydedd ac ymdrechion anhunanol hi ysbrydoli’r prosiect.
Yn 1997 daeth dros 100 o bobl 11-25 oed yng Nghaerfyrddin drwy’r drysau. Daethant at ei gilydd, yfed coffi, mynd i sglefrio ia, cymryd rhan yn y Carnifal Nadolig, cawsant gefnogaeth gan staff, buont yn coginio cinio Nadolig, yn gwirfoddoli, codi arian, daethant yn well aelodau o gymdeithas ac fe gawsant hwyl!
Ers hynny bu Dr. M’z yn lle i filoedd o bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd, gan gynnwys arforgampau, canŵio, abseilio, gwyliau gweithgar, sesiynau preswyl, gwneud gwisgoedd, dylunio gwefannau, chwarae hoci stryd, pledu paent, cwadfeicio, gwibgertio.
Tra’n gwneud hyn oll maent wedi dysgu bod yn well ffrindiau, yn well aelodau tîm, yn fwy medrus wrth siarad a gwrando, yn well aelodau o’r gymuned, cyfarfod pobl bwysig a siarad â nhw yn gydraddolion a helpu eraill.
Cefais y fraint o gwrdd â’r bobl ifanc hyn gan mod i hefyd yno yn 1997 a gwelais lawer ohonynt yn tyfu’n oedolion cyfrifol a hyfryd sy’n dweud “Shwmae” wrtha i ar y stryd ac yn dod nôl i’n gweld o bryd i’w gilydd. Aeth rhai i’r fyddin, daeth rhai yn rhieni, aeth rhai i’r brifysgol a chafodd eraill swyddi a dod yn ôl i weithio inni. Rwyf yn gobeithio y bydd pob un ohonoch a ddarllenodd hwn ac a oedd yn rhan ohono yn hapus ac wedi mwynhau profiad Dr. M’z. Rwyf i wedi. Y diwedd.