Ystafell sydd â 4 cyfrifiadur, 5 gluniadur a 3 ipad yw’r Digilab yn Dr Mz, ond mae’n gymaint mwy na hynny mewn gwirionedd. Rydym yn ymgysylltu â phobl ifanc yn yr holl fannau digidol y mae arnynt angen ein cymorth, megis Minecraft, Roblox, Fortnite, Discord, Instagram a Facebook.
Rydym yn cydweithio gyda nifer o fudiadau cymunedol eraill, gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Spectrum Gaming, Wise Kids, Amgueddfa Caerfyrddin, MAD (Music Art Digital) Abertawe, Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe a llawer mwy.
Rydym yn helpu pobl ifanc i ddeall y problemau a’r risgiau o fod y byd ar-lein a’r byd all-lein yn dod yn agosach at ei gilydd. Mae hyn yn cael ei wneud mewn ffordd onest ac ymarferol, fel eu bod yn gallu manteisio ar y cyfan sydd ar gael.
Rydym yn cynnal sesiynau ar y canlynol:
- Chwarae gemau ar-lein
- Codio
- Podledu
- Creu Cerddoriaeth
- Creu Ffilmiau
- Golygu Lluniau
- Animeiddio
- Cyfrifiadura wedi’i chreu’n bwrpasol
- Storїo Digidol
- Dylunio Posteri
- Cymwysiadau Office
- Sgiliau TG Sylfaenol
- Achrediadau (e.e. Cwrs Blasu Galwedigaethol Cyfrifiadurol ASDAN, Llythrennedd Digidol Hanfodol CBAC, Cwrs Adeiladu PC sy’n perfformio’n dda)
- Dinasyddion y Rhyngrwyd (Rhaglen Diogelwch y Rhyngrwyd)